Damcaniaeth y Tamaid Bach

Oddi ar Wicipedia

Damcaniaeth wyddonol gan D. T. Lewis (17 Mawrth 1909 - 1 Gorffennaf 1992) yw Damcaniaeth y Tamaid Bach a adnabyddir yn rhyngwladol fel The Tamaid Bach Theory of Subnuclear Particle Structure.[1][2] Ymgais Lewis oedd y ddamcaniaeth i symlhau'r gronynnau isatomig i ddau grŵp: y 'tamaid' a'r 'bach'.

Yn rhifyn 216 o Nature a gyhoeddwyd ar 25 Tachwedd 1967, cyhoeddodd Lewis:

From a consideration of the available numerical data the possible existence is now postulated of another mass—energy entity, b, which, in association with the tamaid, could be employed to build up units of matter which correspond to all the known muons, mesons, baryons, etc. It is proposed to call this subsidiary entity a bach (Welsh—the little one)...

ac:

...I shall call this minute particle a tamaid (Welsh, tam-ed: “a small piece”). The neutral tamaid is given the symbol t 0 and by analogy with baryons, mesons, and so on, the possibility of the existence of t ± tamaids cannot be discounted.

Mab i lowr o Frynmawr, Sir Frycheiniog oedd D. T. Lewis a astudiodd gemeg ym Mhrifysgol Aberywstwyth oedd D. T. Lewis.[3] Maes ei ddoethuriaeth oedd adweithiau a niwtraledd asid heidroclorig. Dychwelodd yno flynyddoedd yn ddiweddarach fel athro prifysgol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. nature.com; adalwyd 23 Hydref 2017
  2. Nodion Gwyddonol gan Oain Owain; Y Cymro, Rhif 107; 12 Mai 1970.
  3. independent.co.uk; adalwyd 23 Hydref 2017.