Dale Winton
Oddi ar Wicipedia
Troellwr disgiau ar y radio ac chyflwynydd teledu Seisnig yw Dale Winton, (ganwyd 22 Mai 1955). Ganwyd yn Llundain yn fab i'r actores Sheree Winton. Daeth yn adnabyddus tra'n gweithio ar ei sioe foreuol o 1975 tan 1984 yn Nottingham ar gyfer Radio Trent. Gweithiodd ar Beacon Radio yn ddiweddarach.
Mae wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu gan gynnwys Dale's Supermarket Sweep a Pets Win Prizes. Ers 2008, mae'n fwy enwog am gyflwyno sioe y Loteri Genedlaethol, In It To Win It, bob nos Sadwrn ar BBC1.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Bywgraffiad ar Radio 2
- (Saesneg) Cyfweliad Podcast gyda Dale Winton