Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia
Assemblea Nacional Catalana Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia | |
---|---|
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Mudiad |
Arweinyddiaeth | |
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia | Jordi Sànchez ers 11 Ebrill 2011 |
Man cyfarfod | |
Carrer de la Marina, 315 08025, Barcelona | |
Gwefan | |
http://assemblea.cat/ |
Mudiad cenedlaethol yng Nghatalwnia ydy Assemblea Nacional Catalana (talfyriad: ANC; Cymraeg: Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia); roedd ganddo dros 80,000 o aelodau (40,000 ohonynt yn talu) yn 2015.[1] Rhwng ei ffurfio yn 2011 a Mai 2015 ei Lywydd oedd Carmen Forcadell cyn trosglwyddo'r awennau i Jordi Sànchez. Mae'r ANC yn diffinio'i hun fel mudiad democrataidd, poblogaidd ac unol.[2]
Un o'i ymgyrchoedd cyntaf oedd gwrthdystiad enfawr ar 11 Medi 2012 yn Barcelona, pan ddaeth 1.5 miliwn o bobl at ei gilydd i alw am annibyniaeth i Gatalwnia. Dyma'r brotest fwyaf a welwyd yng Nghatalwnia (hyd 2015). Ar 8 Mehefin y flwyddyn dilynol ail-etholwyd Carme Forcadell yn Llywydd. Rhennir gwaith y mudiad rhwng deg siaptr neu ranbarth, er mwyn ysgogi gweithgareddau lleol.
- Rhai gwrthdystiadau a drefnwyd gan yr ANC
-
Medi 2012 ar ffordd y Passeig de Gracia
-
Concert per la Llibertat, 2013
-
Llwybr y Catalwniaid; rhes o bobl: dros 300,000 o bobl; 480-cilometr; Medi 2013
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Junts pel Sí
- Convergència Democràtica de Catalunya
- Convergència i Unió
- Esquerra Republicana de Catalunya
- Partit dels Socialistes de Catalunya
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ https://assemblea.cat; adalwyd Awst 2015
- ↑ http://www.ccma.cat; adalwyd Awst 2015