Convergència i Unió
Cynghrair gwleidyddol o ddwy blaidd Gatalanaidd yw Convergència i Unió neu CiU (catalaneg, yn golygu "Cydgyfeirio ac Undeb"). Y ddwy blaid sy'n ei ffurfio yw'r Convergència Democràtica de Catalunya a'r Unió Democràtica de Catalunya. O ran ideoleg, mae'n perthyn i'r canol-dde, ac yn cael ei hystyried yn blaid genedlaethol, er nad yw o anghenrhaid o blaid annibynniaeth lwyr i Gatalonia.
Ffurfiodd y CiU lywodraeth Catalonia o 1980 hyd 2003, dan arweinyddiaeth Jordi Pujol, fu'n Arlywydd y Generalidad de Cataluña hyd ddiwedd 2003. Mae'n parhau i fod a'r nifer fwyaf o seddau yn Senedd Catalonia, ond ar hyn o bryd ffurfir y llywodraeth gan glymblaid o bleidiau adain-chwith.
Y CiU yw'r drydedd plaid yn Nghyngres Sbaen o ran seddau, ar ôl y ddwy blaif fawr, y PSOE a'r PP.
Cysylltiad allanol [golygu]
- Convergència i Unió (CiU) (mewn Catalaneg)