Cyfnewidfa Glo
Adeilad ar gyfer masnachu glo yng Nghaerdydd ydy'r Gyfnewidfa Glo (Saesneg: Coal Exchange), yn ogystal â bod yn lleoliad i nifer o swyddfeydd erbyn heddiw. Fe'i lleolir ym Mae Caerdydd, ger The Point, ac fe'i defnyddir ar gyfer cynnal cyngherddau cerddoriaeth byw a nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd.
Cynllunwyd yr adeilad gan y pensaer Edwin Seward. Fe'i adeiladwyd rhwng 1883 a 1886 fel canolfan ar gyfer cynnal trafodaethau masnach ynglŷn â phyllau glo Cymoedd De Cymru - cludid y rhan fwyaf o'r glo hwnnw i Gaerdydd i gael ei ddosbarthu. Chwaraeodd yr adeilad rôl arbennig o bwysig yng Nghaerdydd ddiwydianol yr 19eg ganrif. Dywedir mai yn y Gyfnewidfa Glo yr ysgrifennwyd y siec cyntaf am £1,000,000, yn ystod cyfnewid ar droad yr 20fed ganrif, er mwyn allforio 2500 tunnell o lo i Ffrainc.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) The Coal Exchange