Cwtsh (band)
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 2019 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd |
Band pop Cymraeg yw Cwtsh. Ffurfiwyd y grŵp yn Awst 2019 a ryddhaodd ei halbwm gyntaf yn 2021. Mae gan aelodau'r grŵp brofiadau o ganu, cyfansoddi a pherfformio gyda sawl band Cymraeg arall. Mae'r band wedi recordio deunydd ei hunain gan ei hunain a hefyd yn stiwdio Sonic One yn Llangennech gyda Tim Hamill.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd y grŵp wedi i Siôn Lewis ac Alys gwrdd mewn gig gan Y Cyrff yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019. Roedd Siôn yn ymwybodol ac yn mwynhau gwaith Alys fel Lunar Glass. Ymunodd Betsan fel drymiwr yn 2020 er mwyn "rhoi sgôp ychwnegol". Prif ddylanwadau Alys yw cerddorion pop a dawns gan pobl fel Florence and The Machine a Billy Eillish - cerddoriaeth “sy’n creu drama” meddai wrth Y Selar.[1]
Rhyddhawyd albwm gyntaf Cwtsh yn 2021 a hynny er gwaethaf cyfyngiadau y Gofid Mawr, covid 19 fel trafodwyd ar podlediad gan Y Selar.[2]
Aelodau[golygu | golygu cod]
Mae'r i'r grŵp tri aelod:
- Alys Llywelyn-Hughes - Prif Lais, cyn gantores grŵp Lunar Glass
- Siôn Lewis - gitâr, offerynnau. Cyn aelod o Y Gwefrau, Edrych am Jiwlia, Profiad Rhys Lloyd ac aelod achlysurol o'r Y Crumblowers a Tynal Tywyll
- Betsan Haf Evans - drymiau, perfformio gyda Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga, Gwdihŵs a Pwdin Reis
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Enwebwyd y band ar ei henwebu ar rhestr fer yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer Albwm y Flwyddyn yn 2021.[3]
Discograffi[golygu | golygu cod]
Senglau[golygu | golygu cod]
- "Gyda Thi" - rhyddhawyd gan y band, Mehefin 2020 [1]
Albymau[golygu | golygu cod]
- Gyda'n Gilydd (rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021)[3] - cyhoeddwyd gan y band yn Chwefror 2021
Dolenni[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Cwtsh – wynebau cyfarwydd yn cynnig sŵn newydd". Y Selar. Prifysgol Aberystwyth. Cyrchwyd 8 Hydref 2021.
- ↑ "Rhyddhau Albwm Cwtsh". Y Selar. Prifysgol Aberystwyth. 1 Mawrth 2021. Cyrchwyd 8 Hydref 2021.
- ↑ 3.0 3.1 "Cyhoeddi Rhestr Fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn". Eisteddfod. 11 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-08. Cyrchwyd 8 Hydref 2021.