Crug Coed Bell

Oddi ar Wicipedia

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Coed Bell, yng nghymuned Gronant, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ087828. Mae'r crug hwn ar ochr llethr sy'n wynebu'r gogledd a hynny mewn ardal lle cafwyd llawer o fwyngloddio plwm dros y blynyddoedd]. Ar ei fwyaf, mae'i ddiamedr yn 24 metr a'i uchder yn 1.5m. Mae ganddo ffod yn ei amgylchynnu.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL188.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-06.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato