Cronfa Kuybyshev

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cronfa Kuybyshev gerllaw Oulianovsk

Cronfa ddŵr yn Rwsia yw Cronfa Kuybyshev neu Cronfa Samara (Rwseg: Куйбышевское водохранилище, Kouïbychevskoïe vodokhranilichtche). Y gronfa yma yw'r gronfa ddŵr fwyaf yn Ewrop, a'r drydedd fwyaf yn y byd.

Saif cronfa Kuybyshev ar afon Folga, 700 km i'r dwyrain o Moscow,, yng ngweriniaethau Tsiwfatsia, Maris a Tatarstan ac oblastiau Samara a Oulianovsk. Mae ei arwynebedd yn 6450 km2. Y prif drefi ar ei lannau yw Kazan, Oulianovsk a Togliatti, gyda dinas Samara ychydig gilomedrau oddi wrtho ar hyd y Folga. Dechreuwyd adeiladu'r argae i greu'r gronfa yn 1955, a gorffennwyd ei llenwi yn 1957.