Mari El

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Mari El yn Ffederasiwn Rwsia
MariEl03.png
Baner Mari El

Gweriniaeth sy'n aelod o Ffederasiwn Rwsia yw Gweriniaeth Mari El (Rwseg: Респу́блика Мари́й Эл Respublika Mariy El ; Mari: Марий Эл Республик Marii El Respublik). Trawslythrennir yr enw Mari El fel Mariy El neu Marii El hefyd weithiau. Sefydlwyd y weriniaeth ar y 4ydd o Dachwedd 1920. Mae'n rhan o ardal Dosbarth Ffederal Volga. Y brifddinas yw Yoshkar-Ola. Poblogaeth: 727,979.

Lleolir Mari El yng ngorllewin Ffederasiwn Rwsia, yn rhan ddwyreiniol Gwastadedd Ewropeaidd Rwsia. Mae'n ffinio ar Oblast Nizhny Novgorod, Oblast Kirov, Gweriniaeth Tatarstan a Gweriniaeth Chuvash. Mae tua 55% o'r weriniaeth yn goediog. Llifa Afon Volga trwy'r wlad a cheir dros 200 o lynnoedd.

Yn ôl Cyfrifiad Rwsia 2002, mae'r Mariaid - pobl Ffino-Wgraidd sydd wedi byw yn y rhanbarth ers tua'r 5ed ganrif o leiaf - yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain erbyn hyn. Mae 47.5% o'r boblogaeth yn Rwsiaid a dim ond 42.3% yn Fariaid. Mae grwpiau ethnig eraill yn cynnwys y Tatar (6.0%), Chuvash (1.0%), ac Iwcrainiaid (0.7%).

Yn 2008, etholwyd arlywydd Rwsiaidd, Leonid Markelov. Yn ôl adroddiadau mae'r arlywydd wedi cau sawl papur newydd Mari mewn ymgyrch i Rwsieiddo Mari El. Gwaharddwyd llyfr ar y sefyllfa hefyd.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: