Oblast Ulyanovsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Ulyanovsk.
Lleoliad Oblast Ulyanovsk yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Ulyanovsk (Rwseg: Улья́новская о́бласть, Ulyanovskaya oblast). Ei ganolfan weinyddol yw dinas Ulyanovsk. Poblogaeth: 1,292,799 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Llifa Afon Volga drwy ei ganol. Mae'n ffinio gyda Gweriniaeth Chuvash (gog.), Gweriniaeth Tatarstan (gog-ddwy.), Oblast Samara (dwy.), Oblast Saratov (de), Oblast Penza (gor.), a Gweriniaeth Mordovia (gog-orll.).

Sefydlwyd Oblast Ulyanovsk ar 19 Ionawr 1943, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.