Confensiwn Aarhus

Oddi ar Wicipedia
Confensiwn Aarhus
Enghraifft o'r canlynolcytundeb, cytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad25 Mehefin 1998 Edit this on Wikidata
IaithTsieceg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.unece.org/env/pp/welcome.html Edit this on Wikidata

Mae Confensiwn Aarhus yn gytundeb amgylcheddol amlochrog sy'n cynyddu'r cyfleoedd i ddinasyddion gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol ac yn sicrhau gweithdrefn reoleiddio dryloyw a dibynadwy.[1][2]

Llofnodwyd Confensiwn UNECE ar Fynediad at Wybodaeth, Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Gwneud Penderfyniadau a Mynediad at Gyfiawnder mewn Materion Amgylcheddol, a elwir fel arfer yn Gonfensiwn Aarhus, ar 25 Mehefin 1998 yn ninas Aarhus yn Nenmarc. Daeth i rym ar 30 Hydref 2001. Ym Mawrth 2014, roedd ganddo 47 o'i blaid—46 o wledydd a’r Undeb Ewropeaidd.[3] Mae pob un o'r gwladwriaethau sydd wedi cadarnhau'r Confensiwn o fewn Ewrop a Chanolbarth Asia. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dechrau cymhwyso egwyddorion tebyg i Aarhus yn ei ddeddfwriaeth, yn arbennig y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cyfarwyddeb 2000/60/EC). Mae Liechtenstein a Monaco wedi arwyddo'r confensiwn ond heb ei gadarnhau.

Mae Confensiwn Aarhus yn rhoi’r hawliau cyhoeddus (o ran mynediad at wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd a mynediad at gyfiawnder) ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd lleol, cenedlaethol a thrawsffiniol. Canolbwyntiir ar ryngweithio rhwng y cyhoedd ac awdurdodau cyhoeddus.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae Confensiwn Aarhus yn ffordd o wella'r rhwydwaith llywodraethu amgylcheddol, ac mae'n cyflwyno perthynas rhwng cymdeithas sifil a llywodraethau.[4] Cafodd Confensiwn Aarhus ei ddrafftio gan lywodraethau, gyda chyfranogiad tra gofynnol gan gyrff anllywodraethol (NGOs), ac mae’n rhwymo'n gyfreithiol holl Wladwriaethau a gadarnhaodd eu bod yn 'Bartïon' (hy y rhai sydd wedi arwyddo).[5] Mae pob Parti wedi ymrwymo i hyrwyddo’r egwyddorion a gynhwysir yn y confensiwn ac i gyflwyno adroddiad cenedlaethol, gan ymgynghori mewn modd tryloywder bob amser.[6]

Nodweddion cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae Confensiwn Aarhus yn ddull sy’n seiliedig ar hawliau: mae gan y cyhoedd, yn y presennol a chenedlaethau’r dyfodol, yr hawl i wybod ac i fyw mewn amgylchedd iach.

Y Tair Colofn[golygu | golygu cod]

  1. Mynediad at wybodaeth: dylai fod gan unrhyw ddinesydd yr hawl i gael mynediad eang a hawdd at wybodaeth amgylcheddol. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen a’i chasglu a’i lledaenu mewn modd amserol a thryloyw. Dim ond o dan sefyllfaoedd penodol y gallant wrthod gwneud hyn (fel diogelwch cenedlaethol);[7][8] UNECE, 2006.
  2. Cyfranogiad y cyhoedd mewn gwneud penderfyniadau - mae'n rhaid hysbysu'r cyhoedd am yr holl brosiectau perthnasol ac mae'n rhaid i'r cyhoedd gael y cyfle i gymryd rhan yn y broses hon o benderfynu a deddfwriaethu. Gall pobl sy'n gwneud penderfyniadau fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd pobl eraill; mae'r cyfraniad hwn yn gyfle cryf i wella ansawdd penderfyniadau a chanlyniadau amgylcheddol ac i warantu cyfreithlondeb gweithdrefnol.[9][10]
  3. Mynediad at gyfiawnder: mae gan y cyhoedd yr hawl i weithdrefnau atebolrwydd barnwrol neu weinyddol rhag ofn y bydd y Wladwriaeth yn torri neu’n methu â chadw at gyfraith amgylcheddol ac egwyddorion y confensiwn.[10][11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Aarti, Gupta (2008). "Transparency under scrutiny: Information disclosure in Global Environmental Governance". Global Environmental Politics 8 (2): 1–7. doi:10.1162/glep.2008.8.2.1.
  2. Rodenhoff, Vera (2003). "The Aarhus convention and its implications for the 'Institutions' of the European Community". Review of European Community and International Environmental Law 11 (3): 343–357. doi:10.1111/1467-9388.00332.
  3. "United Nations Treaty Collection". United Nations. Cyrchwyd 18 August 2017.
  4. Aarti, 2008, p.2
  5. Rodehoff, 2003, p.350
  6. Kravchenko, S (2007). "The Aarhus convention and innovations in compliance with multilateral environmental law and Policy". Colorado Journal of International Environmental Law and Policy 18 (1): 1–50.
  7. Rodenhoff, 2003, p.345
  8. UNECE (2006). Your right to a healthy environment: a simplified guide to the Aarhus convention on access to information, public participation in decision making and access to justice in environmental matters. New York: Geneva:United Nations.
  9. Rodenhoff, 2003, p.346
  10. 10.0 10.1 UNECE, 2006
  11. Rodehoff, 2003, p.348

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]