Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin
Wynebddalen y llyfr
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurThomas Edwards, Cwmafon
GwladCymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1894 Edit this on Wikidata
Genrecofiant Edit this on Wikidata
Prif bwncWilliam Prytherch Edit this on Wikidata

Mae Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin, gan Y Parch Thomas Edwards, Cwmafon yn gofiant a gyhoeddwyd gan fab y gwrthrych, Y Parch Samuel Elcanah Prytherch, ac a argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych ym 1894. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r cyfrol yn adrodd hanes, William Prytherch (1804 - 1888) [2] gweinidog cynnar a phoblogaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn sôn am hanes ei blentyndod trist yn colli ei dad ac yn cael ei fagu gan gefnder. Mae'n trafod ei addysg yng Nghaerfyrddin a'i dröedigaeth i'r achos Cristionogol. Mae penodau am ei dderbyn yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd a'i esgyn o fod yn aelod, yn bregethwr ar brawf ac yn y pendraw yn weinidog gyda'i enwad.

Mae llawer o sôn am ei gyfeillgarwch arbennig a'r Parch John Jones, Llangyndeyrn, a'r triciau chwaraees bu rhyngddynt. Mae hanes, ei deulu, ei ddwy wraig a'i ddau fab a'i dilynodd i'r weinidogaeth.

Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys nifer o lythyrau a derbyniodd yr awdur, er cof amdano a cherddi coffa.[3]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-11.
  2. William Prytherch - Y Bywgraffiadur Cymreig
  3. Edwards, T. E.; Prytherch, William (1894). Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin. Dinbych : T. Gee.