Clwb Rygbi Penygraig

Oddi ar Wicipedia
CR Penygraig
Tîm 1908
Enw llawnClwb Pêl-droed Rygbi Penygraig
Sefydlwyd1877.[1]
LleoliadPenygraig, Baner Cymru Cymru
Maes/yddParc y Graig
Cynghrair/auCynghrair 3 Canol Dwyrain A[2]
2019-201af[3]
(Tymor heb ei gwblhau oherwydd Covid-19)

Mae Clwb Rygbi Penygraig yn dîm rygbi'r undeb Cymreig sydd wedi'i leoli ym Mhenygraig, Y Rhondda. Sefydlwyd Clwb Rygbi Penygraig ym 1877, un o'r clybiau rygbi cynharaf i ddod i'r amlwg, ac erbyn yr 1890au roedd ganddi lais cryf yn Undeb Rygbi Cymru, ac yn un o bedwar clwb o Gwm Rhondda a oedd â chynrychiolaeth ar URC. [4]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Yn nhymor 1887/1888, chwaraeodd Penygraig 19 gêm, gan ennill 12, dod yn gyfartal mewn 1 a cholli 6. Roedd rhai o'r buddugoliaethau yn nodedig megis y rhai yn erbyn Clwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr a Chlwb Rygbi Penarth. [5] Yn nhymor 1888/1889, chwaraeodd Penygraig 34 gêm gan ennill 21, dod yn gyfartal mewn 5, a cholli 8. [6]

Yn hanes cynnar rygbi rhyngwladol Cymru gwelwyd chwaraewyr yn cael eu dewis oherwydd natur eu chwarae neu eu gallu ond oherwydd cysylltiadau personol a bri eu clybiau. Penygraig oedd un o'r clybiau cyntaf i dorri'r patrwm hwn gan lwyddo i gael capiau rhyngwladol i ddau o'i chwaraewyr, David 'Dai' Evans ym 1896 (4 cap) a Jack Rhapps (1 cap) ym 1897. [7] Roedd y ddau ddyn yn enghreifftiau cynnar o 'flaenwyr y Rhondda', llafurwyr trwm a ddewiswyd am eu harddull ymosodol o chwarae. Er ei fod wedi'i leoli yng nghanol maes glo diwydiannol de Cymru, roedd Penygraig hefyd yn cyflenwi un o'r maswyr mwyaf dinistriol rygbi cynnar Cymru pan fu Percy Bush yn aelod o'r tîm cyn iddo ymuno â Chaerdydd.

Yn ystod troad y 19eg ganrif, collodd Penygraig, fel llawer o glybiau llwyddiannus eraill Cymru, sawl chwaraewr i rygbi'r gynghrair proffesiynol gogledd Lloegr. Aeth sgowtiaid o dimau rygbi'r gynghrair at chwaraewyr amatur rygbi'r undeb yng Nghymru i geisio cael nhw i chwarae yn Lloegr am gyflog. Collodd Penygraig Rhapps i Salford ym 1897 a Frank Shugars i Warrington ym 1904.

Ym 1908 roedd Penygraig yn chwarae i safon mor uchel fel cawsant eu dewis fel un o'r clybiau gwahodd i wynebu'r tîm deithiol cyntaf Awstralia. Wedi chwarae yn yr Athletic Ground yn Nhonypandy, enillodd yr Awstraliaid 11-3.

Cynhaliwyd gêm gyntaf taith undeb rygbi Japan 1973 o amgylch Cymru, Lloegr a Ffrainc ar faes clwb Penygraig, pan chwaraeodd y tîm teithiol ochr gynrychiolydd Dwyrain Morgannwg.

Rownd derfynol Pelen Arian 2002/03[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Clwb Rygbi Penygraig i guro Clwb Rygbi Pontypridd 30-25 yn rownd derfynol Tlws Pelen Arian Sir Forgannwg 2003; ond ar ôl y gêm gwrthododd pob aelod o XV buddugol Penygraig i roi sampl cyffuriau i swyddogion Chwaraeon y DU y gofynnodd URC amdano. [8] Apeliodd y clwb yn erbyn bwriad URC i wahardd holl aelodau'r tîm a chymerodd hyd at fis Ionawr 2004 i wneud penderfyniad terfynol. Y canlyniad oedd atal 19 o chwaraewyr Clwb Rygbi Penygraig am 15 mis, ac atal ysgrifennydd y clwb am ddwy flynedd. [9]

Anrhydeddau'r clwb[golygu | golygu cod]

  • 1994-95 Adran Cynghrair Cymru 8B Canolog - Pencampwyr
  • 2002-03 Adran y Dwyrain URC - Pencampwyr
  • Tlws Pêl Arian Sir Forgannwg 2002-03 - Enillwyr
  • Adran URC 2016-17 Adran Ganolog Dwyrain B - Pencampwyr

Gemau yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Dyddiad Gwrthwynebydd Canlyniad Sgôr Taith
1908 10 Hydref  Awstralia Colli 3-11 Taith Awstralia o amgylch Ynysoedd Prydain 1908 [10] [11]

Chwaraewyr nodedig[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fields of Praise, The Official History of the Welsh Rugby Union 1881-1981, David Smith, Gareth Williams (1980) tud.11 ISBN 0-7083-0766-3
  2. URC Cynghrair 3 Canol Dwyrain A adalwyd 24 Chwefror 2021
  3. Tablau URC Cynghrair 3 Canol Dwyrain A adalwyd 24 Chwefror 2021
  4. Fields of Praise, The Official History of the Welsh Rugby Union 1881-1981, David Smith, Gareth Williams (1980) pp53 ISBN 0-7083-0766-3
  5. https://newspapers.library.wales/view/3669100/3669103/98/football
  6. https://newspapers.library.wales/view/4319457/4319461/107/football
  7. Fields of Praise, The Official History of the Welsh Rugby Union 1881-1981, David Smith, Gareth Williams (1980) pp93 ISBN 0-7083-0766-3
  8. Rugby Union: Just saying `no' to drugs test leaves Penygraig in a fix - Independent on Sunday Published May 25, 2003
  9. Rugby drug charges - three cleared BBC Online Published 21/01/04
  10. Fields of Praise, The Official History of the Welsh Rugby Union 1881-1981, David Smith, Gareth Williams (1980) pp187 ISBN 0-7083-0766-3
  11. Rugby Relics website