Lee Byrne
Oddi ar Wicipedia
| Enw llawn | Lee Martin Byrne |
|---|
Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol y Gweilch a Chymru yw Lee Byrne (ganed 1 Mehefin 1980. Mae'n chwarae fel cefnwr, ac wedi ennill 16 cap dros Gymru.
Ganed ef yng Mhen-y-bont ar Ogwr. Bu'n chwarae i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli cyn symud i'r Gweilch.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2005, yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2008, gan chwarae ymhob gêm a sgorio cais yn erbyn Lloegr a'r Eidal.