Clueless (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Amy Heckerling |
| Cynhyrchydd | Scott Rudin Twink Caplan |
| Ysgrifennwr | Amy Heckerling |
| Serennu | Alicia Silverstone Dan Hedaya Paul Rudd Stacey Dash Brittany Murphy Donald Faison Wallace Shawn Twink Caplan |
| Sinematograffeg | Bill Pope |
| Cwmni Cynhyrchu | Paramount Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 19 Gorffennaf, 1995 |
| Amser rhedeg | 97 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm gomedi Americanaidd yw Clueless (1995). Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel Jane Austen Emma ond lleolir y ffilm mewn ysgol uwchradd yn Beverley Hills. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Amy Heckerling a chafodd ei chynhyrchu gan Scott Rudin. Rhyddhawyd y ffilm yn Unol Daleithiau America ar yr 19eg o Orffennaf, 1995. Mae'n serennu Alicia Silverstone, Paul Rudd, Jeremy Sisto, Stacey Dash, Donald Faison, Brittany Murphy a Dan Hedaya.
Bellach, mae gan y ffilm, a oedd mewn nifer o ffyrdd yn adlewyrchu'r genhedlaeth a bortreadwyd ynddi, statws eiconig o fewn ei genre ac arweiniodd at gyfres deledu a llyfrau.
Cymeriadau [golygu]
- Cher Horowitz - Alicia Silverstone
- Mel Horowitz, tad Cher - Dan Hedaya
- Josh Lucas - Paul Rudd
- Dionne Davenport, ffrind gorau Cher - Stacey Dash
- Tai Fraiser - Brittany Murphy
- Amber - Elisa Donovan
- Murray - Donald Faison
- Travis - Breckin Meyer
- Elton - Jeremy Sisto
- Christian - Justin Walker
- Mr. Wendell Hall - Wallace Shawn
- Miss Toby Geist - Twink Caplan
