Cliff Wilson

Oddi ar Wicipedia
Cliff Wilson
Ganwyd10 Mai 1934 Edit this on Wikidata
Tredegar Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 1994 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr snwcer proffesiynol o Gymru oedd Cliff Wilson (10 Mai 193421 Mai 1994[1]). Daeth yn Bencampwr Amatur y Byd 1978. Ar ôl troi'n broffesiynol, cyrhaeddodd 16 uchaf y byd ym 1988 pan oedd yn 54 oed, er gwaethaf golwg gwael iawn a nifer o anhwylderau eraill.

Blynyddoedd amatur[golygu | golygu cod]

Roedd Wilson yn chwaraewr snwcer amatur talentog a fagwyd yn Nhredegar, yr un dref â'i gyfaill a'i gyd-chwaraewr snwcer Ray Reardon. Enillodd Bencampwriaeth Genedlaethol Dan-19 yn 1952 a 1953 a Phencampwriaeth Amatur Cymru ym 1956.

Ymddeoliad[golygu | golygu cod]

Roedd poblogrwydd snwcer yn gostwng yn ystod y 1950au ac roedd yn anodd iawn ymuno â'r gylchdaith broffesiynol gaëedig a bychan. Cafodd Wilson ei ddadrithio a rhoddodd y gorau i chwarae snwcer am bymtheg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gweithio yn y gwaith dur yn Llanwern.[1]

Troi'n broffesiynol[golygu | golygu cod]

Adfywiodd diddordeb Wilson yn y gêm yn gynnar yn y 1970au ac, ar ôl ennill Pencampwriaeth Amatur y Byd IBSF yn 1978, trodd yn broffesiynol yn 45 oed y flwyddyn ganlynol.[1]

Cyrhaeddodd yr un ar bymtheg uchaf yn y byd am un tymor, 1988/89, cyflawniad rhyfeddol i berson o'i oed (55 oed). Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth gyntaf y Byd i Bobl Hŷn yn 1991 (gan guro Eddie Charlton 5–4 yn y rownd derfynol), ar y pryd yn cael gwobr o £16,000, ei wobr mwyaf yn ystod ei yrfa.

Roedd yn cael ei adnabod fel chwaraewr cyflym a pheryglus; ond, er iddo chwarae ym Mhencampwriaeth y Byd yn yTheatr y Crucible wyth gwaith, ni symudodd ymlaen y tu hwnt i'r rownd gyntaf erioed - record y mae'n ei rhannu gyda Rex Williams.

Chwaraeodd yn erbyn Ronnie O'Sullivan ifanc ym mhencampwriaeth y DG yn 1992 gan ennill 9–8.[1] Aeth O'Sullivan yn ei flaen y flwyddyn ganlynol i ennill y bencampwriaeth.

Ei rediad uchaf yn ei yrfa oedd 136, a hynny yn Grand Prix 1989.

Salwch a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Tua diwedd ei oes, dioddefodd Wilson nifer o broblemau gyda'i gefn, ei ben-glin a'i galon, a dioddefodd o 'glefyd anweithredol o'r afu a'r pancreas'. Er hynny, parhaodd i chwarae'n broffesiynol a chyrraedd canrif yn y Bencampwriaeth Ryngwladol Agored ym mis Ionawr 1994. Bu farw ym mis Mai y flwyddyn honno. Roedd yn 60 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Hodgson, Guy (27 May 1994). "Obituary: Cliff Wilson". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2013-01-16.
  2. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2016. Cyrchwyd 2016-03-31. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)