Ci Defaid Barfog

Oddi ar Wicipedia
Ci Defaid Barfog
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Defaid Barfog

Ci defaid sy'n tarddu o'r Alban yw'r Ci Defaid Barfog. Cafodd ei ddatblygu i sodli defaid a gyrru gwartheg i'r farchnad. Mae hwn yn un o'r bridiau hynaf o gŵn o Brydain.[1]

Mae ganddo gôt hirflew sy'n gorchuddio'r clustiau llipa, y gynffon, y coesau, a'r trwyn a'r geg, gan roi iddo ei enw. Gall ei flew fod o liw du, glas, melynllwyd, neu frown, ac yn aml gyda smotiau mawr gwyn ar y coesau a'r traed, y bol, y frest, y gwddf, y wyneb, a blaen y gynffon. Mae ganddo daldra o 51 i 56 cm (20 i 22 modfedd). Mae'n gi hwyliog, ffyddlon, bywiog, a chwareus ac yn gi gymar da ac yn anifail anwes addas i'r teulu.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) bearded collie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Hydref 2014.