Chwarel Blaen y Cwm
Oddi ar Wicipedia
Chwarel lechi i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog oedd Chwarel Blaen y Cwm, weithiau Blaen-y-cwm. Fe'i dechreuwyd rhwng 1813 a 1818, a bu ar agor yn ysbeidiol hyd 1914.
Saif y chwarel yma, a chwarel gyfagos Cwt y Bugail, ar dir oedd yn eiddi i deulu Wynne, Peniarth hyd y 1860au. O 1869 ymlaen, roedd Tramffordd Rhiwbach yn ei chysylltu a Rheilffordd Ffestiniog.