Chin (ci)

Oddi ar Wicipedia
Chin
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sbaengi a chi arffed sy'n tarddu o Tsieina a Japan yw'r Chin neu'r Sbaengi Japaneaidd. Daeth y brîd cynnar o Tsieina i Japan, ac yno fe'i gedwir gan y teulu brenhinol. Daeth i sylw'r Gorllewin pan ddychwelodd y Môr-lywydd Matthew Perry i'r Unol Daleithiau ym 1853 gyda sawl ci Chin yn ei feddiant. Mae ganddo lygaid mawr tywyll, trwyn byr, a chynffon bluog sy'n troi'n ôl dros ei gefn. Saif tua 20 i 28 cm ac mae'n pwyso tua 3 kg. Mae ganddo gôt syth a llyfn o flew du a gwyn neu ruddgoch a gwyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Japanese spaniel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mai 2017.