Ci arffed

Oddi ar Wicipedia
Ci arffed
Enghraifft o'r canlynolmath o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
PerchennogAmerican Kennel Club Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad olew o'r Dywysoges Ekaterina Dmitrievna Golitsyna yn dal Ci Smwt, gan yr arlunydd Louis-Michel van Loo (1759).

Ci a fridir i fod yn anifail anwes bychan, yn hawdd ei ddal a'i gludo, ac yn gyfeillgar yw ci arffed[1][2] neu arffetgi,[3] ci côl yn Ne Cymru,[1] ci anwes,[2] ci twt,[2] mangi,[4] ffadelgi neu ffidelgi,[5] ci malpo,[2] neu yn y Gogledd ci rhech[2] neu gi dal pryfed yn ffenestr.[2] Yn hanesyddol cafodd cŵn arffed eu mwytho a'u sbwylio gan aristocratiaid a theuluoedd brenhinol ar draws y byd, ac mae nifer o fridiau yn tarddu o'r hen fyd.[6]

Un enw ar gi anwes bychan yn Gymraeg yw ci rhech, yn seiliedig ar ddychymyg y werin bobl am fioneddiges rwysgfawr mewn parti uchel-ael, â chi bychan ar ei braich: petai hi yn rhoi rhech gallasai roi'r bai ar y ci.

Yn ôl system ddosbarthu'r Fédération Cynologique Internationale, Grŵp 9 yw'r Cŵn Cymar ac Arffed, ac mae gan y grŵp hon un ar ddeg adran:[7]

  • Adran 1 : Bichon a bridiau perthynol
  • Adran 2 : Pwdl
  • Adran 3 : Cŵn Belgaidd Bychain
  • Adran 4 : Cŵn Moel
  • Adran 5 : Bridiau Tibetaidd
  • Adran 6 : Sbaengwn Arffed Seisnig
  • Adran 7 : Chin Japaneaidd a Chŵn Pecin
  • Adran 8 : Cŵn Molosaidd Bychain
  • Adran 9 : Shiwawa
  • Adran 10 : Sbaengwn Arffed y Cyfandir a Chŵn Arffed Rwsiaidd
  • Adran 11 : Kromfohrländer

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [toy].
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Geiriadur yr Academi, [lap].
  3.  arffetgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  4.  mangi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  5.  ffadelgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  6. (Saesneg) toy dog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  7. (Saesneg) Companion and Toy Dogs. Fédération Cynologique Internationale. Adalwyd ar 21 Medi 2014.