Cheryl Cole
| Cheryl Cole | |
|---|---|
| Delwedd:GA Concert Belfast Cheryl.jpg Cheryl Cole |
|
| Ganwyd | 30 Mehefin, 1983 Newcastle upon Tyne, |
| Enwau eraill | Cheryl Ann Tweedy |
| Yn enwog am | Girls Aloud, The X Factor |
| Galwedigaeth | Actores, cantores, model |
Cantores, cyfansoddwraig, dawnswraig, awdures, cynllunydd ffasiwn a phersonoliaeth teledu ydy Cheryl Ann Cole (née Tweedy; ganed 30 Mehefin 1983). Daeth yn enwog yn ystod y 2000au wedi iddi ddod yn aelod o'r band Girls Aloud trwy'r rhaglen deledu realiti Popstars: The Rivals ar ITV. Daeth y band yn un o'r grwpiau teledu realiti prin i gael llwyddiant hir-dymor, gan ennill ffortiwn o £25 miliwn erbyn mis Mai 2009. Gyda Girls Aloud, cafodd Cole 20 sengl a aeth i'r deg uchaf yn y siart (gan gynnwys pedwar rhif un), dau albwm a aeth i rif un, pedwar enwebiad am Wobr BRIT, a achan ennill BRIT am y sengl orau yn 2009 gyda "The Promise".
Yn 2008, daeth Cole yn feirniad ar y sioe deledu realiti "The X Factor" yn y Deyrnas Unedig. Ystyryr Cole yn eicon ffasiwn, gan ymddangos ar gloriau Vogue ac Elle. Mae hi hefyd yn briod â'r pêl-droediwr Seisnig Ashley Cole.
Bydd Cole yn rhyddhau ei halbwm solo cyntaf o'r enw "3 Words" ar y 26 Hydref, 2009.