Charlie Sheen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Charlie Sheen
CharlieSheenMarch2009.jpg
Sheen ym mis Mawrth 2009
Ganwyd 3 Medi, 1965
Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Baner UDA UDA
Yn enwog am Wall Street, Platoon
Galwedigaeth Actor

Mae Carlos Irwin Estévez (ganed 3 Medi, 1965), sy'n fwy adnabyddus fel Charlie Sheen, yn actor Americanaidd. Cafodd ei eni yn Nhinas Efrog Newydd, yn fab yr actor Martin Sheen.

Yn ystod ei yrfa, mae ef wedi chwarae rhan Chris Taylor yn y ddrama am Ryfel Fietnam, Platoon (1986) a Bud Fox yn y ffilm Wall Street (1987). Mae ef hefyd wedi actio mewn rôlau mwy ysgafn gan gynnwys ffilmiau Jim Abraham Hot Shots! (1991 a 1993), a ffilmiau David Zucker Scary Movie 3 a Scary Movie 4. Ar y teledu, mae Sheen yn enwog am ddau gymeriad mewn comedïau sefyllfa: fel Charlie Crawford ar Spin City, ac fel Charlie Harper ar Two and a Half Men.

Mae Sheen hefyd yn adnabyddus am ei fywyd personol, gan gynnwys adroddiadau yn y wasg am ei gamddefnydd o alcohol a chyffuriau anghyfreithlon. Hefyd adroddwyd fod ganddo broblemau priodasol a gwnaed honiadau o drais yn y cartref yn ei erbyn. Yn ddiweddarach, cafodd ei ddiswyddo o'i rôl ar Two and a Half Men gan CBS a Warner Bros. ar 7 Mawrth, 2011. Ychydig wedi hyn, cyhoeddodd Sheen ei fod yn mynd ar daith genedlaethol.

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.