Cecil Raleigh

Oddi ar Wicipedia
Cecil Raleigh
FfugenwCecil Raleigh Edit this on Wikidata
GanwydAbraham Cecil Francis Fothergill Rowlands Edit this on Wikidata
27 Ionawr 1856 Edit this on Wikidata
Aberystruth Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 1914 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdramodydd Edit this on Wikidata
PriodEffie Adelaide Rowlands, Saba Raleigh Edit this on Wikidata

Ffugenw Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands (27 Ionawr, 185610 Tachwedd, 1914) oedd Cecil Raleigh. Roedd yn actor a dramodydd Cymreig.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganed Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands ar 27 Ionawr 1856 yn Aberystruth, Sir Fynwy, yn fab i Cecilia Anne Daniel Riley (1813-1911) a'i hail ŵr Dr. John Fothergill Rowlands (1823-1878). Cymerodd yr enw llwyfan Cecil Raleigh. Ar 19 Rhagfyr 1882, priododd Effie Adelaide Henderson (1859 - 16 Hydref 1936), nofelydd a gyhoeddodd o dan yr enw Effie Adelaide Rowlands ac yn ddiweddarach yn actio o dan yr enw llwyfan E. Maria Albanesi,[1] bu iddynt ysgaru yn ddiweddarach.[2] Ar 31 Mawrth 1894, ailbriododd ag Isabel Pauline Ellissen (8 Awst 1862-22 Awst 1923), actores a oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Saba Raleigh.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd am gyfnod mewn theatr gerdd, ond gadawodd actio er mwyn ysgrifennu dramâu, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cydweithrediad ag eraill, cynhyrchodd dramâu, felodramâu a darnau cerddorol, a lwyfannwyd yn bennaf yn y Comedy Theatre, Llundain, ac yn y blynyddoedd diweddarach yn Drury Lane.

Mae Cheer, Boys, Cheer (1895); Hearts are Trumps (1899); The Best of Friends (1902); a The Whip (1909–10) yn enghreifftiau nodweddiadol o'i ddramâu, ond roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i ddarnau cerddorol megis Little Christopher Columbus (1893), Dick Whittington and His Cat (1894), The Yashmak (1897) a The Sunshine Girl (1912).

Yn ddiweddarach gwnaed sawl un o'i ddramâu yn ffilmiau. Gweithiodd fel beirniad drama i ddau neu dri o bapurau Llundain, a daeth yn ysgrifennydd i'r Ysgol Celf Ddramatig yn Gower Street, Llundain.[4]

Dramâu[golygu | golygu cod]

Cyd-ysgrifennodd The Derby Winner, 1894, gyda Henry Hamilton ac Augustus Harris, a gynhyrchwyd yn yr Unol Daleithiau o dan y teitl The Sporting Duchess a'i addasu ar gyfer ffilm ym 1915 a 1920 ymysg ei ddramau eraill oedd:

  • Cheer, Boys, Cheer, gyda Harris a Hamilton, 1895
  • The White Heather, 1897, gyda Hamilton, sylfaen ffilm fud 1919
  • The Great Ruby, 1898, gyda Hamilton, sylfaen ffilm fud 1915
  • Hearts Are Trumps, 1900, sylfaen ffilm fud 1920
  • The Sins of Society, 1909, gyda Hamilton, sylfaen ffilm fud 1915
  • The Whip, 1909, gyda Henry Hamilton , y sylfaen ar gyfer ffilmiau mud 1917 a 1928
  • The King's Minister, sylfaen ffilm fud 1914
  • Sealed Orders, 1915, gyda Hamilton, wedi'i addasu ar gyfer ffilm 1918 Stolen Orders
  • Sporting Life, gyda Seymour Hicks, sylfaen ffilmiau mud 1918 a 1925
  • The Marriages of Mayfair, sylfaen y ffilm fud 1920 The Fatal Hour
  • The Hope, gyda Hamilton, sylfaen ar gyfer ffilm fud 1920
  • The Best of Luck , gyda Hamilton, y sylfaen ar gyfer ffilm fud 1920
  • The Best of Friends
  • The Price of Peace
  • The Grey Mare, gyda George Robert Sims
  • The Guardsman, gyda Sims

Theatr[golygu | golygu cod]

  • Little Christopher Columbus, 1893 burlesque, wedi ei gyd-ysgrifennu â Sims
  • Dick Whittington and His Cat, pantomeim 1894, wedi ei gyd-ysgrifennu gydag Augustus Harris a Hamilton
  • The Yashmak, 1897 sioe gerdd, wedi'i gyd-ysgrifennu â Seymour Hicks
  • The Sunshine Girl, 1912 Comedi gerddorol Edwardaidd, llyfr wedi'i gyd-ysgrifennu â Paul A. Rubens

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym 1914 a rhoddwyd ei olion i orffwys ym Mynwent Golders Green, Llundain [5]

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Meggie Albanesi". IMDb. Cyrchwyd 2019-10-11.
  2. "MR AND MRS ROWLANDS/RALEIGH". www.epsomandewellhistoryexplorer.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-11.
  3. "Saba Raleigh". IMDb. Cyrchwyd 2019-10-11.
  4. "OUR LONDON CORRESPONDENCE, Liverpool Mercury". 11 Medi 1882. Cyrchwyd 11 Hydref 2019.
  5. "Mr. Cecil Raleigh". gdc.gale.com. Sunday Times. 15 Tachwedd 1914. Cyrchwyd 2019-10-11.