Catherine Zeta-Jones
| Catherine Zeta-Jones | |
|---|---|
Catherine Zeta-Jones |
|
| Ganwyd | 25 Medi, 1969 Abertawe, Cymru |
| Yn enwog am | The Terminal , No Reservations, Chicago |
| Galwedigaeth | Actores, Cantores |
Actores o Abertawe yw Catherine Zeta-Jones CBE (ganwyd 25 Medi, 1969). Mae hi'n briod â'r seren ffilm Michael Douglas ac yn byw yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd ei gyrfa ar lwyfan pan oedd yn ifanc iawn. Ar ôl iddi serennu mewn nifer o gyfresi a ffilmiau teledu yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau, daeth i enwogrwydd gyda rôlau mewn ffilmiau yn Hollywood megis The Phantom, The Mask of Zorro, ac Entrapment ar ddiwedd y 1990au. Enillodd Wobr yr Academi, Gwobr BAFTA a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ac fe'i henwbwyd am Wobr Golden Globe am ei phortread o Velma Kelly yn yr addasiad ffilm 2002 o'r sioe gerdd Chicago.
Bywyd personol [golygu]
Yn Ebrill 2011, aeth Zeta-Jones i Ysbyty Silver Hill yn New Canaan, Connecticut i gael ei thrin am anhwylder deubegwn II.[1]
Ffilmiau [golygu]
- The Mask of Zorro (1998)
- The Haunting (1999)
- Entrapment (1999)
- High Fidelity (2000)
- Traffic (2000)
- America's Sweethearts (2001)
- Chicago (2002)
- Intolerable Cruelty (2003)
- The Terminal (2004)
- Ocean's Twelve (2004)
- The Legend of Zorro (2005)
- No Reservations (2007)
- Death Defying Acts (2008)
- The Rebound (2009)
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Catherine Zeta-Jones treated for bipolar disorder. Reuters (13 Ebrill 2011). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.