Castell Lincoln

Oddi ar Wicipedia
Castell Lincoln
Mathamgueddfa tŷ hanesyddol, castell mwnt a beili, safle archaeolegol, castell Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Lincoln, Dinas Lincoln
Sefydlwyd
  • 1068 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Lincoln
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.2349°N 0.5409°W Edit this on Wikidata
Cod OSSK9756571832 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Romanésg Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganWiliam I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Manylion

Castell canoloesol mawr yn ninas Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Castell Lincoln. Fe'i codwyd ar ddiwedd yr 11g gan Wiliam y Concwerwr ar safle caer Rufeinig. Mae'n anarferol gan fod ganddo ddau fwnt;[1] dim ond un castell arall sydd â nodwedd o'r fath, sef Castell Lewes, Dwyrain Sussex.

Mae'r castell mewn cyflwr da. Fe'i ddefnyddiwyd fel carchar hyd yn ddiweddar, ac mae Llys y Goron yn parhau yno hyd heddiw. Mae’n agored i’r cyhoedd ac mae’n bosibl cerdded o amgylch y muriau lle ceir golygfeydd o’r castell ei hun, y gadeirlan, y ddinas, a’r wlad o amgylch. Mae'r castell bellach yn eiddo i Gyngor Sir Swydd Lincoln ac mae'n heneb gofrestredig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Lincoln Castle", Heritage Gateway; adalwyd 29 Awst 2022
  2. "Lincoln Castle", Historic England; adalwyd 29 Awst 2022