Cassiodorus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hanesydd ôl-Rufeinig (neu Fysantaidd) a gwladweinydd oedd Flavius Magnus Aurelius Cassiodorus Senator neu Cassiodorus (c.490 - c.580), a aned yn Scyllaceum (Squillace heddiw) yn Nghalabria, de'r Eidal. Roedd Cassiodorus yn weinidog ac ymgynghorwr i Theodoric Fawr, brenin yr Ostrogothiaid yn yr Eidal, ac yn nes ymlaen yn brif weinidog i'w olynydd y Frenhines Amalasontha.

Tua'r flwyddyn 540 ymddeolodd Cassiodorus o fywyd cyhoeddus er mwyn cysegru gweddill ei ddyddiau i lenydda ac astudio. Sefydlodd fynachlog yn Vivarium ar arfordir y Môr Ionaidd a hyrwyddai'r gwaith o gopïo llawysgrifau Clasurol. Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth yw ei wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd a baratowyd ar gyfer ei fynachod, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop. Cyfansoddodd yn ogystal hanes y Gothiaid sydd ar goll bellach ond yn adnabyddus i ni diolch i'r crynodeb ohono a wnaed gan yr ysgolhaig Jordanes (fl. 6ed ganrif).

Gwaith[golygu]

  • Laudes (drylliau o folawdau)
  • Chronica - Hanes y byd hyd 519 sy'n cyfuno hanes Rhufain a hanes y Gothiaid
  • Hanes y Gothiaid (526-533)
  • Variae epistolae (537), papurau Theodoric; S.J.B. Barnish Cassiodorus: Variae (Lerpwl: University Press, 1992) ISBN 0-85323-436-1
  • Exposition psalmorum
  • De anima ("Ar yr Enaid") (540)
  • Institutiones Divinarum et Saecularium Litterarum (543-555)
  • De Artibus ac Disciplinis Liberalium Litterarum
  • Codex Grandior (fersiwn o'r Beibl)

Llyfryddiaeth[golygu]

  • James J. O'Donnell, Cassiodorus (1979)

Dolenni allanol[golygu]