Cartagena, Sbaen
Oddi ar Wicipedia
Dinas a phorthladd yn ne-ddwyrain Sbaen yng nghymuned ymreolaethol Murcia yw Cartagena (ynganiad: Cartachena). Saif ar lannau'r Môr Canoldir, tua 55 cilometr i'r de o ddinas Murcia. Mae ganddi boblogaeth o 206,565.
Sefydlwyd y ddinas gan y cadfrifog Carthaginaidd Hasdrubal Hardd yn 228 CC.