Carreg y Bwci

Oddi ar Wicipedia
Carreg y Bwci
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.112797°N 3.978734°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD156 Edit this on Wikidata

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Carreg y Bwci, yng nghymuned Llanycrwys, Sir Gaerfyrddin; cyfeiriad grid SN645479. Mae gan y crug hwn ffos yn ei amgylchynnu ac mae'n mesur 12 metr mewn diamedr a cheir maen hir 5m wrth "fynedfa"'r mwnt yn y de-orllewin. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y crug gan y Rhufeiniaid, fel tŵr. Ymddengs fod y crug yn parhau i gael ei ddefnyddio gan Neo-baganiaid.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CD156.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-14.