Capel Gwynfil

Oddi ar Wicipedia
Capel Gwynfil
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangeitho Edit this on Wikidata
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr109.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.219°N 4.0209°W Edit this on Wikidata
Cod postSY25 6TW Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Capel y Methodistiaid Calfinaidd sydd wedi ei leoli yn Llangeitho yw Capel Gwynfil.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd Capel Gwynfil ei adeiladu yn 1760[2] ar gyfer cymuned Fethodistiaeth Galfinaidd, a sefydlwyd yn 1735. Mae gan y capel gysylltiadau cryf gyda Daniel Rowland, sef gweinidog Methodistaidd ac un o sefydlwyr Methodistiaid Calfinaidd. Tu allan i’r capel mae yna gerflun ohono. Cafodd y capel ei ail-adeiladu yn 1764, 1813 a 1861–1863,[3] i gynllun John Lumley, Aberystwyth.

Ar un adeg ystyrid Llangeitho yn ‘Gaersalem’ y Methodistiaid yng Nghymru, a byddai yn agos i 10,000 o addolwyr yn teithio yma bob Sul i wrando ar Daniel Rowland a derbyn cymun ganddo.[4]

Statue_of_Daniel_Rowland_-_geograph.org.uk_-_5502970
Cerflun Daniel Rowland y tu allan i'r capel


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-01-16.
  2. "Gwynfil, Llangeitho | The Presbyterian Church of Wales" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-16.
  3. "Llangeitho Llangeitho Community Council". Cyngor Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-16.
  4. "Capel Gwynfil, Llangeitho". Capel Gwynfil, Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-16.