Canal du Midi
Oddi ar Wicipedia
Camlas yn ne Ffrainc yw'r Canal du Midi. Mae'n 250 km o hyd, ac yn cysylltu afon Garonne a'r Môr Canoldir. Mae'n mynd trwy drwy régions, Languedoc-Roussillon a Midi-Pyrénées. Mae'n cychwyn o afon Garonne ger Toulouse ac yn cyrraedd y Môr Canoldir ger Sète.
Adeiladwyd y gamlas gan Pierre-Paul Riquet a François Andréossy yn 1667-1680. Dynodwyd y Canal du Midi yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1996.