Camille Saint-Saëns

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Camille Saint-Saëns

Cyfansoddwr, arweinydd, organydd a phianydd Ffrengig oedd Charles Camille Saint-Saëns (9 Hydref 183516 Rhagfyr 1921). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei weithiau The Carnival of the Animals, Danse Macabre, Samson and Delilah, Havanaise, Introduction and Rondo capriccioso, a'i Symffoni Rhif 3 (Symffoni Organ).

Cynnwys

[golygu] Bywgraffiad

Ganwyd Saint-Saëns ym Mharis, Ffrainc yn fab i glerc llywodraeth, a fu farw ond tri mis wedi ei enedigaeth. Derbyniodd ei fam, Clémence, gymorth gan ei modryb, Charlotte Masson, a symudodd i fewn gyda nhw. Cyflwynodd Masson ef i'r piano, a dechreuodd roi gwersi iddo. Tua'r adeg hyn, ag yntau'n ddau oed, roedd gan Saint-Saëns draw perffaith. Cyfansoddodd ei ddarn cyntaf ar 22 March 1839, ar gyfer y piano, a cedwir hwn yn y Bibliothèque nationale de France. Nid oedd rhagaeddfededd Saint-Saëns ond yn gyfyngedig i gerddoriaeth, dysgodd sut i ddarllen ac ysgrifennu erbyn iddo ddod yn dair oed, ac roedd wedi meistrioli rhywfaint o Ladin erbyn iddo ddod yn saith oed.

[golygu] Gweithiau

[golygu] Symffonïau

  • Symffoni rhif 1
  • Symffoni rhif 2
  • Symffoni rhif 3 (avec orgue)

[golygu] Operau

  • La Princesse Jaune (1872)
  • Samson et Dalila (1877)
  • Henry VIII (1883)
  • Hélène (1904)

[golygu] Ar gyfer piano

  • Souvenir d'Italie
  • Concerto Piano, rhif 1-5
  • Rhapsodie d'Auvergne

[golygu] Eraill

  • Danse macabre (1875)
  • Le Carnaval des Animaux
  • Oratorio de Noël
Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill