Butch Cassidy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert LeRoy Parker (alias Butch Cassidy) mewn ffotograff o'r Wild Bunch yn Fort Worth, Texas, 1901.

Herwr a lleidr Americanaidd ac arweinydd y gang "Hole in the Wall" oedd Butch Cassidy (13 Ebrill 1866 – tua 7 Tachwedd 1908), ei enw genedigol oedd Robert LeRoy Parker.[1]

Ganwyd Parker yn Beaver, Utah yn fab i Maximillian Parker ac Ann Campbell Gillies, y tad yn Sais a'r fam o'r Alban. Parker oedd y cyntaf o 13 o blant, magwyd ar ransh ei rieni yn Circleville, Utah, 215 milltir (346 km) i'r de o Salt Lake City, Utah.

Yn 1896 daeth yn ffrindiau gyda dyn o Bennsylvania, Harry Longabaugh, (neu'r Sundance Kid) a ymunodd â gang "Hole in the Wall".

Saethu Llwyd ap Iwan[golygu]

Ar 29 Rhagfyr 1909 saethwyd Llwyd ap Iwan (sef mab Michael D. Jones) yn farw gan ddau fandit Americanaidd o'r enw Wilson ac Evans wrth iddynt geisio dwyn arian oddi yno. Cred rhai mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys, bellach, eu bont eisioes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  What's Up With All These Names?. Bureau of Land Management (18 Ionawr 2008). Adalwyd ar 13 Mehefin 2008.