Buanedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa o fewn car ym Mhrydain sy'n mesur buanedd mewn milltiroedd yr awr (MYA).

Cyfradd mudiant, hynny yw, cyfradd newid lleoliad yw buanedd. Fe'i fynegir yn aml fel y pellter a symudwyd ymhob uned o amser. Mesuriad sgalar yw buanedd.

Mesurir buanedd mewn metrau yr eiliad: ms−1. Dynodir y buanedd cyfartalog gan y fformiwla:

\bar{\mathbf{v}} = \frac{\Delta \mathbf{x}}{\Delta t}.

Cyflymder yw buanedd ac hefyd cyfeiriad. Gelwir y gyfradd newid mewn cyflymder yn gyflymiad.

Physics template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.