Brwydr Glyn Cyning

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Glyn Cyning
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1075 Edit this on Wikidata
LleoliadMeirionnydd Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Brwydr oedd hon ym Meirionnydd rhwng Gruffudd ap Cynan a Thrahaearn ap Caradog yn 1075.

Glaniodd Gruffudd ar Ynys Môn yn 1075 gyda byddin o Iwerddon, a chyda chymorth y Norman Robert o Ruddlan llwyddodd i orchfygu Trahaearn yn y frwydr waedlyd hon.

Yn ôl Syr John Edward Lloyd, lleolir y frwydr ger "Dyffryn Glyn Cul" mewn llecyn a elwir ers hynny yn "Gwaeterw".[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Archive.org; A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (1912); adalwyd 03/01/2013