Brwydr Bunker Hill
Oddi ar Wicipedia
The Death of General Warren at the Battle of Bunker Hill gan John Trumbull
Ymladdwyd Brwydr Bunker Hill ger Boston, Massachusetts ar 17 Mehefin 1775 yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America. Roedd y frwydr yn fuddugoliaeth i'r fyddin Brydeinig, o dan arweinyddiaeth General Howe; ond dioddefodd y fyddin golledion mawr - lladdwyd mwy na 200 o filwyr. Collwyd tua 100 o filwyr gan y gwrthryfelwyr Americanaidd, o dan arweinyddiaeth William Prescott. Fel un o'r digwyddiadau pwsyig cyntaf y rhyfel, gwelir y frwydr fel tystiolaeth o'r ffaith bod y gwrthryfelwyr yn barod i frwydro dros ryddid eu gwlad.