Bridget Bevan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Madam Bevan

Cymwynaswraig ac addysgydd o Gymraes oedd Bridget Bevan (née Vaughan), a adnabyddir hefyd fel Madam Bevan (bedyddwyd 30 Hydref 169811 Rhagfyr 1779). Hi oedd prif gynheiliad gwaith addysgol y gweinidog Anghydffurfiol Griffith Jones o Landdowror, sefydlydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.

Bywyd[golygu]

Ganwyd Bridget Bevan yn y Derllys, Llannewydd, yn Sir Gaerfyrddin, ddiwedd Hydref 1698, yn ferch ieuengaf y philanthropydd John Vaughan (1663-1722), noddwr ysgolion y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol yn y sir, a'i wraig, Elizabeth Thomas (m. 1721). Ar 30 Rhagfyr 1721 priododd yr AS lleol a chyfreithiwr Arthur Bevan (1689-1743) yn eglwys Merthyr. Roedd hi'n etifeddes ystad ei ewythr John Vaughan o'r Derllys.

Yn 1731 dechreuodd noddi gwaith Griffith Jones i sefydlu ysgol arbrofol ym mhentref Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. O'r cnewyllyn hwn tyfodd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig, a symudai o bentref i bentref trwy Gymru yn cyflwyno addysg sylfaenol i blant ac oedolion a'u dysgu i darllen Cymraeg. Cyfranodd Madam Bevan lawer o'i chyfoeth sylweddol i'r ysgolion arloesol hyn. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1755, symudodd Griffith Jones i fyw ym mhlasdy Madam Bevan; pan fu farw yntau yn 1761, ysgwyddodd hi faich y brosiect. Rhwng 1736 a 1776, cynhaliwyd 6,321 o ysgolion a rhoddwyd elfennau addysg Gymraeg i 304,475 o blant ac oedolion, sef bron i hanner poblogaeth Cymru.

Bu farw Madam Bevan yn Nhalacharn yn 1779. Gadawodd £10,000 i'r ysgolion (swm sylweddol iawn yn y 18fed ganrif). Ond gwrthynebodd rhai o'i pherthnasau yr ewyllys am 30 o flynyddoedd, ac erbyn i'r arian gael ei ryddhau yn 1804 roedd y swm wedi tyfu i £30,000.

Dolenni allanol[golygu]