Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymdeithas elusennol a chenhadol Gristnogol a sefydlwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1699 oedd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (Saesneg: Society for the Promotion of Christian Knowledge neu'r S.P.C.K.). Cafodd ddylanwad sylweddol ar dwf addysg Gymraeg i'r cyffredin yng Nghymru yn negawdau cyntaf y 18fed ganrif ac ar addysg yn Lloegr hefyd trwy sefydlu rhwydwaith o ysgolion. Bwriad arall yr SPCK oedd lledaenu'r Efengyl Gristnogol mewn gwledydd tramor.

Er iddi gael ei sefydlu yn Lloegr, yr oedd gan y Gymdeithas gysylltiadau agos â Chymru o'r cychwyn cyntaf. Gŵr o'r Trallwng oedd y sefydlydd, y Dr Thomas Bray ac roedd dau o'r pedwar lleygwr a'i cynorthwyodd yn Gymry, sef Syr Humphrey Mackworth o Gastell-nedd a Syr John Phillips o Gastell Pictwn yn Sir Benfro.

I ryw raddau, roedd gwaith y Gymdeithas yng Nghymru yn barhad o waith yr Ymddiriedolaeth Gymreig gynharach, ond gyda'r gwahaniaeth pwysig bod yr SPCK yn rhan o Eglwys Loegr tra bu'r Ymddiredolaeth yn agored i bawb ond yn dysgu ysgrifennu Saesneg yn bennaf, er bod hynny o reidrwydd yn cael ei wneud gan amlaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Noddodd yr SPCK ddau argraffiad rhad o'r Beibl yn Gymraeg a chyhoeddodd nifer o lyfrynau a phamffledi defosiynol. Gyda gwaith yr ysgolion elusennol a sefydlwyd ar yr un pryd, bu hyn yn fodd i ledaenu llythrenedd yng Nghymru. Sefydlwyd rhai ugeiniau o ysgolion ledlled Cymru. I helpu'r werin bobl addysgu eu plant, rhoddid llyfrau a hyd yn oed dillad i'r plant na allai eu rhieni fforddio hynny. Pobl leol, curadiaid gan amlaf, oedd yr ysgolfeistri : yr enwocaf ohonynt oedd Griffith Jones, Llanddowror.

Bu'r Gymdeithas yn llewyrchus iawn yng Nghymru am gyfnod, ond dirywiodd ac ni chafwyd ysgol newydd ar ôl 1729. Un o'r rhesymau am hynny, yn ogystal â cholli noddwyr, oedd twf Anghydffurfiaeth.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Mary Clement, The S.P.C.K. and Wales (1954)
  • R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1928)