Brenin Momo

Oddi ar Wicipedia
Marcelo Reis, Brenin Momo Carnifal Rio de Janeiro yn 2005.

Mae'r Brenin Momo neu'r Brenin Momos neu'r Brenin Momus (Portiwgaleg: Rei Momo; Sbaeneg: Rey Momo) yn cael ei ystyried yn frenin y Carnifal mewn nifer o ddathliadau yn America Ladin, yn bennaf ym Mrasil a Colombia.

Mae ei ymddangosiad yn arwydd cychwyn y dathliadau Carnifal. Mae gan bob carnifal ei Brenin Momo ei hun, sydd yn aml yn cael ei roi yn symbolaidd i'r ddinas. Yn draddodiadol, dyn tal, tew, sy'n cael ei ddewis i gyflawni'r rôl oherwydd bod y Brenin Momo gwreiddiol yn ddyn cydnerth.

Tarddiad[golygu | golygu cod]

Waldemar Esteves da Cunha, Brenin Momo Santos, gyda'r Frenhines Mira, mewn Carnifal ym Mrasil, 1988.

Mae'r enw Brenin Momus yn deillio o fytholeg y Groegiaid a chwedl y duw Groegaidd Momus (μῶμος), duw dychan.[1]

Y Brenin Momo yn Santos[golygu | golygu cod]

Waldemar Esteves da Cunha (ganwyd 1920 - bu farw 2013) [2] oedd y Brenin Momo yn Santos, 1950-1956 a 1958-1990, a pharhaodd yn y swydd tan oedd yn 92 oed, pan ymddeolodd; ef oedd y Momo hynaf ym Mrasil.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Baner BrasilEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Frasiliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.