Bonnie Tyler

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tyler-ebw-40.jpg

Cantores bop o Abertawe yw Bonnie Tyler (ganwyd 8 Mehefin 1951 yn Sgiwen ger Castell Nedd gyda'r enw Gaynor Hopkins) a fydd yn cynrychioli Prydain yn Eurovision 2013.

Ar ôl blynyddoedd o ganu yn nhafarnau a chlybiau (gyda'r darlledydd Chris Needs yn cyfeilio iddi yn y dyddiau hynny) roedd wedi cyrraedd 10 uchaf senglau Prydain ym 1975 gyda'r gân Lost in France.

Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn 1983 wrth iddi recordio albwm Faster Than The Speed of Night, a'r sengl Total Eclipse of the Heart gan Jim Steinman arno. Aeth y ddau i rif 1 y siartiau pop ym Mhrydain. Roedd Total Eclipse of the Heart yn llwyddiant masnachol rhyngwladol.

Heddiw mae ganddi dŷ yn y Mwmbwls ger Abertawe ond mae'n treulio llawer o'r flwyddyn ym Mhortiwgal.

Cynrychiolodd Bonnie y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2013.


  • 2006 Live Bonnie On Tour
  • 2006 Bonnie On Tour DVD
  • 2006 Celebrate
  • 2005 Wings
  • 2004 Simply Believe
  • 2002 Heart & Soul/Heart Strings
  • 1998 All In One Voice
  • 1996 Free Spirit
  • 1993 Silhouette In Red
  • 1992 Angel Heart
  • 1991 Bitterblue
  • 1988 Hide Your Heart/Notes From America
  • 1986 Bonnie Tyler The Video VHS
  • 1986 Secrets Dreams And Forbidden Fire
  • 1983 Faster Than The Speed Of Night
  • 1981 Goodbye To The Islands
  • 1979 Diamond Cut
  • 1978 Natural Force/It's A Heartache
  • 1977 The World Starts Tonight