Bomiau car Llundain 2007
Enghraifft o'r canlynol | ymgais ar ymosodiad |
---|---|
Dyddiad | 29 Mehefin 2007 |
Lladdwyd | 0 |
Cyfres | terfysgaeth yn y Deyrnas Gyfunol, 2007 |
Olynwyd gan | Glasgow Airport attack |
Lleoliad | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Dinas Westminster |
Ar y 29ain o Fehefin 2007 darganfuwyd dau fom mewn car yn Llundain. Cawsant eu darganfod a'u difa cyn iddynt gael eu ffrwydro. Darganfuwyd y ddyfais gyntaf ger clwb nos Tiger Tiger yn Haymarket tua 01.30 a'i ail ddyfais yn Stryd Cockspur yn yr un ardal o'r ddinas.
Criw o barafeddygon wnaeth galw'r heddlu, wedi iddynt weld mwg amheus. Roedden nhw wedi bod yn y clwb er mwyn ymdrin â digwyddiad bychan yno.
Tua awr yn ddiweddarach, rhoddwyd tocyn parcio ar y car a oedd yn cynnwys yr ail fom am barcio'n anghyfreithlon ac awr yn hwyrach, tynnwyd y car ar gefn lori i'w gloi yn Park Lane. Sylwodd staff ar arogl petrol cryf a chysylltwyd â'r heddlu pan glywsant am y ddyfais ffrwydrol gyntaf.
Gwnaed y ddau gar gan Mercedes-Benz. Roedd y cyntaf yn gar gwyrdd golau metalig a'i rif oedd G824 VFK, tra bod yr ail gar o wneuthuriad tebyg ond yn las o ran lliw.
Llwyddwyd i fynd a'r ceir a'r dyfeisiadau ffrwydrol i'w hymchwilio'n fforensig a darganfuwyd fod y ddau gar yn cynnwys caniau o betrol, tanciau o nwy a nifer o hoelion. byddai'r bomiau wedi ffrwydro trwy ddefnyddio ffôn symudol.
Er i'r digwyddiad hwn gyd-fynd ag apwyntiad Gordon Brown fel Prif Weinidog deuddydd ynghynt, gwadodd Stryd Downing fod cysylltiad rhwng y ddau er gwnaed y cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn a'r ymosodiad ar faes awyr Glasgow y diwrnod canlynol.