Bob Woolmer

Oddi ar Wicipedia
Bob Woolmer
Ganwyd14 Mai 1948 Edit this on Wikidata
Kanpur Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 2007 Edit this on Wikidata
Kingston Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • The Skinners' School
  • Yardley Court Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCricedwr y Flwyddyn, Wisden, Sitara-i-Imtiaz Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm criced cenedlaethol Lloegr, Kent County Cricket Club, KwaZulu-Natal cricket team Edit this on Wikidata

Cyn-gricedwr a hyfforddwr oedd Robert Andrew Woolmer (14 Mai, 1948 - 18 Mawrth, 2007). Yn ystod ei yrfa'n chwarae criced yn Sir Gaint, chwaraeodd Woolmer 19 gem brawf a 6 gem un-dydd i dîm Lloegr rhwng 1972 a 1981. Wedi iddo ymddeol o chwarae criced yn 1984, ymfudodd Woolmer i Dde Affrica i hyfforddi criced yng nghlybiau ac ysgolion a oedd gan mwyaf yn sefydliadau croenddu yn ystod y gyfundrefn apartheid yn Ne Affrica. Yn 1987, dychwelodd i Loegr i hyfforddi ail dîm sir Gaint ac wedyn tîm cyntaf Swydd Warwick, lle enillodd bedwar tlŵs criced yn ystod ei dri tymor yno. Yn 1994, daeth yn hyfforddwr tîm criced cenedlaethol De Affrica ac yn 2005 penodwyd Woolmer yn hyfforddwr tîm Pacistan.

Bu farw Woolmer ar y deunawfed o Fawrth, 2007.[1] Yn dilyn yr ymryson (yn 1997 a 2006) a ddaeth o'r honiadau fod Woolmer yn annog ei chwaraewyr i ymyrryd gyda cyflwr peli criced yn ystod gemau un-dydd[2], credwyd yn wreiddiol fod y straen o hyfforddi tîmau cenedlaethol wedi niweidio ei iechyd yn syfrdanol. Yn ogystal, collodd Pacistan yn annisgwyl yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan Criced y Byd 2007 y noson cyn iddo farw, ac felly credwyd fod y pwysau a oedd arno fel hyfforddwr wedi cyfrannu at ei farwolaeth. Er hynny, yn dilyn post-mortem swyddogol gan heddlu Jamaica ychydig ddiwrnodau wedi marwolaeth Woolmer, cyhoeddwyd fod Woolmer'n debygol o fod wedi ei dagu i farwolaeth.[3] Yn ddiweddarach cyhoeddodd yr heddlu eu bod yn awr yn ystyried bod Woolmer wedi marw o achosion naturiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]