Billy Trew

Oddi ar Wicipedia
Billy Trew
Ganwyd1 Gorffennaf 1878 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Billy Trew (1 Gorffennaf 1878 - 20 Awst 1926) yn ganolwr rygbi'r undeb Cymreig.[1] Chwaraeodd i Glwb Rygbi Abertawe. Enillodd 29 cap dros Gymru ac mae'n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr allweddol Oes Aur cyntaf rygbi Cymru [2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd William James (Billy) Trew yn Abertawe, yn blentyn i John Trew, gwneuthurwr boeleri, ac Annie Maria (née Page) ei wraig. Roedd Billy Trew yn rhan o deulu chwaraeon. Chwaraeodd ei ddau frawd, Harry a Bert i Glwb Rygbi Abertawe hefyd. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth i gychwyn trwy ddilyn yn ôl traed ei dad fel gwneuthurwr boeleri,[3] yna bu'n cadw'r Brooklands Hotel yn Oxford Street, Abertawe.[1] Ym 1905 priododd Mary Ann Jones. Bu iddynt tair merch ac un mab. Bu'r mab, Billy Trew iau, hefyd yn chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, gan wasanaethu fel capten y tîm yn ystod tymor 1929/30 cyn iddo symud i Loegr i chwarae i Swinton

Bu Trew farw o niwmonia yn ei westy yn Abertawe yn 48 oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Danygraig, Abertawe. Cyrchwyd ei elor i'r fynwent gan y chwaraewyr rhyngwladol Fred Scrine, Ivor Morgan, Dicky Owen a Dick Jones[4]

Gyrfa Rygbi[golygu | golygu cod]

Abertawe[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Trew i chwarae rygbi i dimau bach lleol y Melbourne a'r Trinity. Ym 1897 Cafodd ei ddewis i chware i drydydd tîm Abertawe. Ar ôl un gêm i'r drydydd tîm cafodd ei ddewis i'r ail dîm ac ar ôl un gêm i'r ail dîm cafodd ei ddewis i'r tîm gyntaf. [5] Roedd gêm gyntaf Trew i dîm cyntaf Abertawe yn erbyn Penarth ar 8 Hydref 1897.Sgoriodd gôl adlam yn yr ornest, [6]. Fe’i penodwyd yn gapten Abertawe ar gyfer tymor 1906/07, swydd a ddaliodd am y pedwar tymor nesaf. Ar ôl seibiant o flwyddyn pan gymerodd Dicky Owen y rôl, [7] cymerodd y gapteniaeth eto ar gyfer tymor 1912/13. Chwaraeodd i Abertawe yn erbyn y Crysau Duon ym 1905 a bu’n gapten ar y tîm mewn buddugoliaethau yn erbyn ochrau teithiol Awstralia (1908) a De Affrica (1912).

Cymru[8][golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Trew ei gem ryngwladol gyntaf i Gymru ym 1900 yn 20 mlwydd oed. [9] Roedd ei gêm gyntaf ar yr asgell yn Erbyn Lloegr, sgoriodd cais a bu Cymru yn fuddugol. [10] Chwaraeodd i Gymru 28 gwaith arall, gan sgorio 11 cais, un trosiad ac un gôl adlam. Ei gêm olaf i Gymru oedd buddugoliaeth o 11-8 dros Ffrainc ym 1913.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru v[11]

Ar ôl rhoi'r gorau i chwarae[golygu | golygu cod]

Cafodd Trew anaf yn ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Ffrainc a methodd cael wellhad llwyr ohono. Bu'n mynychu gemau Abertawe gyda'r bwriad o chwarae, ond methodd i fod o gymorth i'r tîm. [12] Ymddeolodd o'r gêm yn swyddogol ym mis Ebrill 2013. Ar ôl rhoi'r gorau i chwarae dechreuodd dyfarnu gemau. [13] Bu'n ysgrifennu erthyglau am chwaraeon i'r Sporting News. Cafodd ei ethol i bwyllgor rheoli Undeb Rygbi Cymru a bu'n gwasanaethu ar y pwyllgor dethol chwaraewyr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1953-6.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "TREW, WILLIAM JOHN (1878 - 1926), chwaraewr pêl droed (Rygbi) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-04-12.
  2. Davies tud 916
  3. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad Cymru 1901 Plwyf St Marc, Abertawe RG12/4481; Ffolio: 116; Tud: 57
  4. Daily Mirror 26 Awst 1926
  5. "BIOGRAPHIES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-01-05. Cyrchwyd 2021-04-12.
  6. Smith (1980), tud 134
  7. Smith (1980), tud 135.
  8. Smith (1980), tud 472.
  9. "WALES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-01-06. Cyrchwyd 2021-04-12.
  10. "ENGLAND V WALES - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1900-01-13. Cyrchwyd 2021-04-12.
  11. Smith (1980), tud 472.
  12. "TREW RETIRES - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-05-01. Cyrchwyd 2021-04-12.
  13. "TREW TO REFEREE - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-09-24. Cyrchwyd 2021-04-12.