Bias goroesedd

Oddi ar Wicipedia

Bias goroesedd neu'r rhagfarn goroesedd (survivorship bias) yw gwall rhesymegol o ganolbwyntio ar y bobl neu'r pethau a oroesodd heibio rhyw broses ddethol, tra'n esgeuluso'r rhai na wnaethant, fel arfer oherwydd eu diffyg gwelededd. Gall hyn arwain at gasgliadau ffug mewn sawl ffordd wahanol.

Gall bias goroesedd arwain at gredoau rhy optimistaidd oherwydd anwybyddir methiannau, megis pan fydd cwmnïau nad ydynt yn bodoli mwyach yn cael eu heithrio rhag dadansoddiadau o berfformiad ariannol. Gall hefyd arwain at y gred ffug bod gan y llwyddiannau mewn grŵp rhyw briodwedd arbennig, yn hytrach na chyd-ddigwyddiad yn unig (hynny yw credu bod cydberthynas yn profi achosiaeth). Er enghraifft, pe bai tri o'r pum myfyriwr â'r graddau coleg gorau yn dod o'r un ysgol uwchradd, gall hynny arwain at gredu bod yr ysgol uwchradd honno yn cynnig addysg ragorol. Gallai hyn fod yn wir, ond ni ellir ateb y cwestiwn heb edrych ar raddau'r holl fyfyrwyr eraill o'r ysgol uwchradd honno, nid dim ond y rhai a "oroesodd" y broses ddethol, yn yr achos yma bod yn y pum gradd coleg uchaf. Enghraifft arall yw meddwl nad oedd digwyddiad yn beryglus oherwydd gwnaeth pawb rydych chi'n cyfathrebu â nhw goroesi. Hyd yn oed pe byddech chi'n gwybod bod rhai pobl wedi marw, ni fyddai ganddyn nhw lais i ychwanegu at y sgwrs, gan arwain at fias yn y sgwrs.

Yn ei lyfr The Black Swan, galwodd yr awdur ariannol Nassim Taleb y data a guddiwyd gan ragfarn goroesi yn "dystiolaeth dawel" (silent evidence).[1]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

  • Mewn busnes, cyllid, ac economeg Ym maes cyllid, mae bias goroesedd yn codi pan gaiff cwmnïau sydd wedi methu eu heithrio o astudiaethau perfformiad oherwydd nad ydyn nhw'n bodoli mwyach. Yn aml mae'n achosi i ganlyniadau astudiaethau edrych yn well oherwydd dim ond cwmnïau a oedd yn ddigon llwyddiannus i oroesi tan ddiwedd y cyfnod arsylwi sy'n cael eu cynnwys. Mae Michael Shermer yn Scientific American[2] a Larry Smith o Brifysgol Waterloo[3] wedi disgrifio sut mae cyngor am lwyddiant masnachol yn cam-lunio argraffau ohono trwy anwybyddu'r holl bobl fusnesau a fethodd.[4] Mae'r newyddiadurwr a'r awdur David McRaney yn nod bod y "busnes cyngor yn fonopoli sy'n cael ei redeg gan oroeswyr. Pan ddaw rhywbeth yn ddi-oroeswr, naill ai caiff ei ddileu yn llwyr, neu mae pa bynnag lais sydd ganddo yn cael ei dawelu i sero".[5]
  • Mewn hanes Mae Susan Mumm wedi disgrifio sut mae bias goroesedd yn arwain at haneswyr i astudio sefydliadau sy'n dal i fodoli yn fwy na'r rhai sydd wedi cau. Mae hyn yn golygu bod sefydliadau mawr, llwyddiannus fel Sefydliad y Merched, a oedd wedi'u trefnu'n dda ac sy'n dal i fod ag archifau hygyrch i haneswyr weithio ohonynt, yn cael eu hastudio yn fwy na sefydliadau elusennol llai, er y efallai gwnaeth y rhain llawer iawn o waith.[6]
  • Mewn hanes celf Wrth edrych ar hen ddarnau o gelf heddiw, mae'r ymddangos taw pynciau rhan fwyaf o'r gelf y crëwyd yn hanesyddol oedd pynciau crefyddol neu bortreadau pobl bwysig. Ond y rheswm am hyn yw y byddai'r darnau celf hyn wedi'u cadw mewn eglwysi a phalasau, adeiladau ac amgylcheddau lle maent fwy tebygol o oroesi nes heddiw. Byddai rhan fwyaf o artistiaid yn paentio pynciau mwy dibwys megis golygfeydd hardd ac aelodau teuluoedd arferol, ond bydd y rhain yn cael eu trin yn fyrhoedlog neu eu cadw mewn amgylcheddau lle maent yn llai tebygol o oroesi nes heddiw. Felly'n creu argraff gamarweiniol o fyd celf y gorffennol.[7]
  • Mewn pensaernïaeth ac adeiladu Mae pensaernïaeth sifil a threfol yn cynnwys proses o adnewyddu, adnewyddu a chwyldroi yn gyson. Dim ond yr adeiladau hardd, mwyaf defnyddiol, a mwyaf strwythurol gadarn sydd yn goroesi o un genhedlaeth i'r llall. Mae hyn yn creu bias goroesedd lle mae'r adeiladau gwannaf a mwyaf hyll y gorffennol yn cael eu dileu o fodolaeth. Felly barn y cyhoedd, mae holl adeiladau'r gorffennol yn harddach ac wedi'i adeiladu'n well nag adeiladau cyfoes, sy'n anghywir. Enghraifft arall o hwn yw'r gred fod rhan fwyaf o gestyll wedi'i adeiladu o garreg, oherwydd nid yw'r rhai pren wedi goroesi.[8]
  • Mewn gyrfaoedd cystadleuol iawn Mae nifer o straeon yn y cyfryngau o sêr ffilm, athletwyr, gerddorion, a rheolwyr busnes a fethodd yn y coleg, yn llwyddo oherwydd eu bod yn unigolion penderfynol sy'n dilyn ei freuddwydion. Mae llawer llai o ffocws ar y nifer fawr o bobl a all fod yr un mor fedrus a phenderfynol ond sy'n methu â dod o hyd i lwyddiant oherwydd ffactorau y tu hwnt i'w rheolaeth neu hapddigwyddiadau.[9] Mae hyn yn creu canfyddiad ffug gan y cyhoedd y gall unrhyw un gyflawni pethau gwych os oes ganddynt y gallu a gwneud yr ymdrech. Nid yw'r mwyafrif llethol o fethiannau yn weladwy i lygad y cyhoedd, a dim ond y rhai sy'n goroesi'r pwysau dethol eu hamgylchedd cystadleuol sy'n adnabyddus.
  • Yn y fyddin
    Ar awyrennau sy'n dychwelyd o ryfel, mae'r rhanbarthau difrodedig yn dangos lleoliadau lle gallant gynnal difrod a dal i ddychwelyd adref; nid yw'r rhai sy'n cael eu taro mewn lleoedd eraill yn goroesi.
    Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwnaeth yr ystadegydd Abraham Wald ystyried bias goroesedd yn ei gyfrifiadau wrth ystyried sut i leihau colledion awyrennau.[10] Fel rhan o'r Grŵp Ymchwil Ystadegol ym Mhrifysgol Columbia, archwiliodd i'r difrod a wnaed i awyrennau a oedd wedi dychwelyd o frwydrau - argymhellon nhw i ychwanegu arfwisg i'r ardaloedd a ddangosodd y difrod lleiaf. Roedd hyn yn gwrth-ddweud casgliadau milwrol yr Unol Daleithiau bod angen arfwisg ychwanegol ar y rhannau mwyaf difrodedig yr awyren.[11][12][13] Nododd Wald fod y fyddin ond yn ystyried yr awyrennau a wnaeth goroesi eu brwydrau; nid oedd unrhyw awyren a gafodd eu saethu i lawr ar gael i'w hasesu. Roedd y tyllau yn yr awyren oedd yn dychwelyd, felly, yn cynrychioli ardaloedd lle gallai awyren gymryd difrod a dal i ddychwelyd adref yn ddiogel. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn arloesol yn nisgyblaeth ymchwil weithrediadol.[14]
  • Mewn cathod Mewn astudiaeth a berfformiwyd ym 1987 adroddwyd bod cathod sy'n cwympo o lai na chwe stori, ac sy'n dal yn fyw, yn cael mwy o anafiadau na chathod sy'n disgyn o uwch na chwe stori.[15][16] Cynigir esboniadau ffisegol am y ffenomenon hwn gan nifer o wyddonwyr. Ond, ym 1996, cynigiodd colofn papur newydd The Straight Dope esboniad posibl arall am y ffenomen hon: bias goroesedd. Nid yw cathod sy'n marw ar ôl cwympo yn mynd i'r milfeddyg, ond mae cathod gwnaeth goroesi a'u hanafu yn mynd i'r milfeddyg. Felly nid oedd y cathod marw yn set data'r astudiaeth, ac efallai taw'r cathod gwnaeth goroesi'r cwymp uwch yn gryfach ac felly'n cael llai o ddoler.[17]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Taleb, Nassim Nicholas (2010). The Black Swan: The Impact of the Highly Improbable (arg. 2nd). New York: Random House. t. 101. ISBN 9780679604181.
  2. Michael Shermer (2014-08-19). "How the Survivor Bias Distorts Reality". Scientific American.
  3. Carmine Gallo (2012-12-07). "High-Tech Dropouts Misinterpret Steve Jobs' Advice". Forbes.
  4. Robert J Zimmer (2013-03-01). "The Myth of the Successful College Dropout: Why It Could Make Millions of Young Americans Poorer". The Atlantic.
  5. Karen E. Klein. "How Survivorship Bias Tricks Entrepreneurs". Bloomberg.
  6. Mumm, Susan (2010). Women and Philanthropic Cultures, in Women, Gender and Religious Cultures in Britain, 1800-1940, Eds Sue Morgan and Jacqueline deVries . London: Routledge.
  7. Tomlinson, Janis A. (2012). From El Greco to Goya : painting in Spain, 1561-1828. London: Laurence King. ISBN 978-1-78067-028-7. OCLC 805019549.
  8. "Survivorship Bias". The Data School (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-06.
  9. Karen E. Klein (2014-08-11). "How Survivorship Bias Tricks Entrepreneurs". Bloomberg Business.
  10. Wald, Abraham. (1943). A Method of Estimating Plane Vulnerability Based on Damage of Survivors. Statistical Research Group, Columbia University. CRC 432 — reprint from July 1980 Archifwyd 2019-07-13 yn y Peiriant Wayback.. Center for Naval Analyses.
  11. Wallis, W. Allen (1980). "The Statistical Research Group, 1942-1945: Rejoinder". Journal of the American Statistical Association 75 (370): 334–335. doi:10.2307/2287454. JSTOR 2287454. https://archive.org/details/sim_journal-of-the-american-statistical-association_1980-06_75_370/page/334.
  12. "Bullet Holes & Bias: The Story of Abraham Wald". mcdreeamie-musings (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-29.
  13. "AMS :: Feature Column :: The Legend of Abraham Wald". American Mathematical Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-29.
  14. Mangel, Marc; Samaniego, Francisco (June 1984). "Abraham Wald's work on aircraft survivability". Journal of the American Statistical Association 79 (386): 259–267. doi:10.2307/2288257. JSTOR 2288257. https://archive.org/details/sim_journal-of-the-american-statistical-association_1984-06_79_386/page/259. Reprint on author's web site
  15. Whitney, WO; Mehlhaff, CJ (1987). "High-rise syndrome in cats". Journal of the American Veterinary Medical Association 191 (11): 1399–403. PMID 3692980.
  16. "Highrise Syndrome in Cats". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-21. Cyrchwyd 2020-10-06.
  17. "Do cats always land unharmed on their feet, no matter how far they fall?". The Straight Dope. July 19, 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-19. Cyrchwyd 2008-03-13.