Berf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gair sy'n mynegi gweithred neu fod neu gyflwr yw berf.[1] Diffiniad naïf fyddai mai gair "gwneud (rhywbeth)" yw berf. Daw'r gair Cymraeg ei hun o'r gair Lladin verbum ('Y Gair').[2]

Cynnwys

[golygu] Rhediad berfau

Gall ffurf berf newid er mwyn dangos person, rhif, amser, a amser yn y Gymraeg. Mewn ieithoedd eraill, gall ddangos priodweddau eraill megis cenedl. Er enghraifft, dyma pob ffurf posib y berf "caru" mewn Cymraeg ffurfiol gyfoes:

[golygu] Modd Mynegol

Unigol Lluosog
Presennol Person 1af caraf carwn
2il berson ceri cerwch
3ydd person câr carant
Amhersonol cerir
Amherffaith Person 1af carwn carem
2il berson carit carech
3ydd person carai carent
Amhersonol cerid
Gorffennol Person 1af cerais carasom
2il berson ceraist carasoch
3ydd person carodd carasant
Amhersonol carwyd
Gorberffaith Person 1af caraswn carasem
2il berson carasit carasech
3ydd person carasai carasent
Amhersonol caresid

[golygu] Modd Dibynnol

Unigol Lluosog
Presennol Person 1af carwyf carom
2il berson cerych caroch
3ydd person caro caront
Amhersonol carer
Amherffaith Person 1af carwn carem
2il berson carit carech
3ydd person carai carent
Amhersonol cerid

[golygu] Modd Gorchmynol

Unigol Lluosog
Presennol Person 1af carwn
2il berson câr cerwch
3ydd person cared carant
Amhersonol carer

[golygu] Berfenwau

Fel rheol, nid yw berfenwau fel bwyta yn cael eu cyfri fel berfau yn y Gymraeg, ond mae eu swyddogaeth yn debyg i ferfau annherfynol a geir mewn llawer o ieithoedd.

[golygu] Berfau cryno a berfau cwmpasog

Mae berf seml/gryno/rhediadol fel un o'r ffurfiu o canu uchod, yn dangos person, amser ac ati yn ffurf y prif ferf. Ond gellir defnyddio berf arall fel bod i wneud y gwaith yma, gan adael y prif ferf fel berfenw yn unig. Gelwir hyn yn ferf gwmpasog, gan ei fod yn effeithio ar rannau arall o'r frawddeg. E.e. yn lle o "Caraf ferch" (berf cryno), gallwn ddweud "Rydw i'n caru merch" (berf gwmpasog).

[golygu] Falens

Un ffordd o wahaniaethu rhwng ferfau yw falens; cyfanswm goddrychau a gwrthrychau'r ferf.

[golygu] Falens 0

Mae'r math yma o ferf yn disgrifio rhywbeth sy'n digwydd (heb nodi pwy sy'n ei wneud nag i bwy). Enghraifft yw berf amhersonol fel "canwyd cân" yn y Gymraeg.

[golygu] Falens 1

Gelwir berf sydd â goddrych, ond heb wrthrych yn ferf anghyflawn. Er enghraifft, "cysgodd Dafydd".

[golygu] Falens 2

Mae gan ferf gyflawn' gwrthrych yn ogystal â goddrych, er enghraifft, "Bwytodd ef fwyd".

[golygu] Falens 3

Goddrych a dau wrthrych sydd gan ferf o'r fath fel arfer, e.e. "Rhoddais i'r anrheg i Jên".

[golygu] Cyfeiriadau a nodiadau

  1. D. A. Thorne, Gramadeg yr Iaith Gymraeg (1996), par. 259
  2. Evan J. Jones, Dysgu Lladin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1933), tud. 2.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill