Beinn Liath Mhor
Oddi ar Wicipedia
| Beinn Liath Mhòr (Ucheldir yr Alban) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Mynydd Llwyd Mawr |
| Iaith | Gaeleg yr Alban |
| Testun y llun | Beinn Liath Mhor o Sgorr Ruadh, gyda cherrig cwarts a thywodfaen i'w gweld yn amlwg iawn. |
| Uchder (m) | 926 |
| Uchder (tr) | 3038 |
| Amlygrwydd (m) | 271 |
| Lleoliad | Ucheldir yr Alban |
| Map topograffig | Landranger 25; Explorer 429 |
| Cyfesurynnau OS | NG964519 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Marilyn, Munro, Murdo a HuMP |
Mae Beinn Liath Mhòr yn gopa mynydd a geir rhwng Strath Carron a Glen Torridon ar y daith o Applecross i Achnasheen yn Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NG964519. Ceir carnedd ar y copa.
Prif nodwedd y mynydd yw'r lliwiau cyferbyniol a ddaw oherwydd y cwarts a'r tywodfaen. Yr ail nodwedd amdano yw crib y copa - sy'n ddwy kilometr o hyd, nad yw'n gostwng yn is na 800 metr. Munro ydyw, y 258ed uchaf.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)