Bayreuth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Wagnerfestspielhaus

Dinas yn nhalaith Bafaria yn yr Almaen yw Bayreuth. Saif ar afon Main Goch, ac mae'r boblogaeth tua 74,800.

Mae Bayreuth yn enwog oherwydd ei chysylltiadau a'r cyfansoddwr Richard Wagner, a fu'n byw yma. Ceir gŵyl flynyddol fyd-enwog a sefydlwyd yma yn 1876, pan berfformir ei weithiau. Bu farw'r cyfansoddwr Franz Liszt yma hefyd.