Baner Canada

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Canada FIAV 111111.svg
Pearson's Pennant

Baner o ddau stribed coch gyda stribed gwyn â deilen masarnen, arwyddlun cenedlaethol Canada ers 150 mlynedd, coch rhyngddynt yw baner Canada. Mae'r coch yn cynrychioli aberth milwyr Canadaidd y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r gwyn yn cynrychioli gogledd eiraog y wlad.

Am flynyddoedd nid oedd gan Ganada baner genedlaethol a bu'n defnyddio fersiwn ei hunan o Luman Coch Prydain gyda tharian arfbais Canada yn y fly. Yn y 1960au cynnar cynyddodd gefnogaeth am faner unigryw. Bu'r dyluniad gwreiddiol, a alwyd yn Pearson's Pennant (Penwn Pearson), yn defnyddio tair deilen masarnen i gynrychioli Canada, gyda stribed glas ar naill ochr i gynrychioli'r cefnforoedd Tawel ac Iwerydd. Ni chefnogwyd y faner hon gan lawer, a chytunwyd y mwyafrif i gael baner gyda'r ddeilen masarnen a'r lliwiau cenedlaethol. Mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 15 Chwefror, 1965.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Canada.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill