Badminton

Oddi ar Wicipedia
Badminton
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon raced, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y chwaraewr Danaidd Peter Gade

Mabolgamp a chwaraeir gyda racedi a theflyn o'r enw gwennol[1] neu gorc asgellog[2] yw badminton. Yn debyg i denis, gellir ei chwarae ar lawnt, ond chwaraeir cystadlaethau gan amlaf dan do i osgoi'r effaith a gai'r gwynt ar y wennol.[3]

Datblygodd y gêm yn Lloegr ar ddiwedd y 19eg ganrif. Daeth yn un o'r chwaraeon Olympaidd swyddogol yng Ngemau'r Haf yn Barcelona ym 1992. Gwledydd Asia sy'n dominyddu'r gêm fodern, ond mae hefyd yn boblogaidd yng Ngwledydd Prydain a Denmarc.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [shuttlecock].
  2.  corc. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Awst 2014.
  3. (Saesneg) badminton. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Awst 2014.
  4. (Saesneg) Badminton History. Olympic.org. Adalwyd ar 30 Awst 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.