Ayr
Oddi ar Wicipedia
Cerflun o Robert Burns yn Sryd Fawr, Ayr
Tref a phorthladd yn ne-orllewin yr Alban yw Ayr. Saif ar lannau Moryd Clud, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 46,050.
Arferai Ayr fod yn brif dref yr hen Swydd Ayr, ac mae'n awr yn brif dref De Swydd Ayr. Ganed Robert Burns gerllaw, yn Alloway, sy'n awr yn un o faesdrefi Ayr.