Acsolotl
Enghraifft o'r canlynol | tacson, organeb model |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Ambystoma |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Axolotl | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Caudata |
Teulu: | Ambystomatidae |
Genws: | Ambystoma |
Rhywogaeth: | A. mexicanum |
Enw deuenwol | |
Ambystoma mexicanum Shaw, 1789 |
Amffibiad sy'n tarddu o nifer o lynoedd, megis Llyn Xochimilco ger Dinas Mecsico, yw'r acsolotl (o Nahwatleg āxōlōtl [aːˈʃoːloːtɬ] o ātl "dŵr" a xōlōtl "un llithrig neu grychiog, gwas"). Salamandr neotenig ydyw, sy'n perthyn i'r salamadr teigr,[1][2][3] ac mae'n anarferol ymhlith amffibiaid gan eu bod yn troi'n oedolion heb fynd trwy fetamorffosis. Yn lle datbylgu ysgyfaint a mynd ar y tir, maent yn aros yn dŵr gyda'u tagellau.
Yn 2010, roedd acsolotod gwyllt ar eu ffordd i ddifodiant[4] oherwydd twf Dinas Mecsico a'r llygredd dŵr sy'n dod o hyn, yn ogystal â bygythiad rhywogaethau goresgynnol megis tilapiaid a draenogiaid. Fe'u rhestri gan y CITES fel rhywogaeth mewn pergyl a chan yr IUCN fel rhywogaeth mewn perygl argyfyngus yn y gwyllt, â phoblogaeth sy'n lleihau. Defnyddir acsolotod yn helaeth mewn ymchwil wyddonol oherwydd eu gallu i aildyfu aelodau'r corff.[5] Yn y gorffennol, bu i acsolotod gael eu gwerthu fel bwyd ym marchnadoedd Mecsico an un o brif fwyddydd yr Asteciaid oeddynt.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑
- ↑ "Mexican Walking Fish, Axolotls Ambystoma mexicanum" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Mar 2018.
- ↑ "Axolotols (Walking Fish)". Aquarium Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 April 2013. Cyrchwyd 2013-09-12.
- ↑ Matt Walker (2009-08-26). "Axolotl verges on wild extinction". BBC. Cyrchwyd 2010-06-28.
- ↑ Weird Creatures with Nick Baker (Television series). Dartmoor, England, U.K.: The Science Channel. 2009-11-11. Event occurs at 00:25.
- ↑ "Mythic Salamander Faces Crucial Test: Survival in the Wild". The New York Times. Cyrchwyd 30 July 2015.